Amdanom ni
Mae Felin Fawr Cyf wedi bod yn brysur ers rhai blynyddoedd yn nodi ac amlygu gwerth hanesyddol a chymdeithasol safle’r Felin Fawr. Rydym wedi cydnabod gwerth sylweddol y Felin Fawr yn ein cynlluniau busnes a datblygiad ac wedi amlinellu nifer o ddefnyddiau ar gyfer y safle a fydd yn ymestyn ei werth i’r economi a’r gymuned leol, tra ar yr un pryd, yn cyflenwi incwm i ddiogelu ac ehangu’r dreftadaeth beirianyddol a chymdeithasol unigryw a phwysig hon a leolir ar y safle hwn.
Mae hyn yn cyflwyno posibiliadau diddorol o gymysgu’r syniad o ‘barc busnes gwyrdd’, sydd yn dod yn boblogaidd ar draws Cymru, gyda chadwraeth treftadaeth gymdeithasol a diwydiannol.