Felin Fawr

Busnes

Fersiwn :

v3.0g - Tachwedd 04, 2009

Treftadaeth

Mae'r safle Felin Fawr yn cynnwys cyfoeth o dreftadaeth ddiwydiannol ac archeolegol, Bydd llawer o'r nodweddion hyn yn cael eu disgrifio yn yr adran "Newyddion" y wefan hon.

Cysylltau defnyddiol

Safleoedd

Units

cyfeiriad

Bethesda Bangor Gwynedd LL57 4YY

disgrifiad

Agorwyd Felin Fawr ym 1803 fel canolfan trin a phrosesu llechi, yn cynhyrchu nwyddau wedi eu naddu a'u caboli o lechi a gloddiwyd yn chwarel y Penrhyn gerllaw. Mae Melin Fawr yn adnabyddus drwy'r wlad ar sail archeoleg ddiwydiannol a'i chyfraniad i hanes chwareli Dyffryn Ogwen. Gyda hyn mewn golwg mae Felin Fawr Cyf yn ail ddatblygu'r safle gan gynnwys gweddillion yr adeiladau hyn mewn cynllun fydd yn eu diogelu i'r dyfodol ac ar yr un pryd yn darparu amrediad o adeiladau buddiol i'r gymuned busnes leol trwy hyrwyddo cyfleoedd gwaith, gwella'r amgylchedd a dehongli gorffennol diwydiannol yr ardal. Cychwynnwyd ar y dasg o ail ddatblygu ym 1995 pan addaswyd un adeilad i greu tri gweithdy. Mae ail wedd y datblygiad yn awr yn mynd rhagddo wrth i ddwy o'r Melinau Llechi gynt gael eu troi'n weithdai / unedau cychwynnol. Mae cyfanswm arwynebedd y ddwy Felin Lechi yn 810m2 ac fe fydd saith uned ynddynt. Yn yr unedau yma fydd lle ar gyfer swyddfa, cegin, stordy a thoiled gyda mynedfa ar gyfer yr anabl. Fydd maint yr unedau yn amrywio o 86m2 hyd at 148m2, gyda llawer o'r nodwedd iadau traddodiadol mewn bodolaeth, yn helpu i greu awyrgylch delfrydol. Mae diogelwch yn wastad yn elfen bwysig yn meddwl Felin Fawr Cyf pan maen't yn dylunio unedau diwydiannol ac mae Felin Fawr yn esiampl dda o sut gall hen adeiladau cael eu haddasu i cyflenwi ddiogelwch heb ddinistrio delwedd draddodiadol yr adeilad. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy rhoid drysau neu gaeadau pren trwm ar bob agoriad allanol sydd yn gallu plygu yn ol i orwedd yn fflat ar y wal tu allan yn ystod y dydd. Pan fyddant yn agored mae drysau gyda ffenestri yw gweld, er mwyn gadael golau'r dydd i fewn a fe all y rhain hefyd blygu yn ol er mwyn cael cerbyd bach i fewn i'r uned. Mae'r ffenestri hefyd o'r un cynllun, er mwyn rhwystro ymyrwyr.

gwasanaethau

Trydan (3 phase ar gael), dwr a charffosiaeth

UNED MAINT
STATWS
SAFLE
1   tenantiaid Felin Fawr
2   tenantiaid Felin Fawr
3   tenantiaid Felin Fawr
4   tenantiaid Felin Fawr
5   tenantiaid Felin Fawr
6   tenantiaid Felin Fawr
7   tenantiaid Felin Fawr
8   tenantiaid Felin Fawr
9   tenantiaid Felin Fawr
10   tenantiaid Felin Fawr
11   tenantiaid Felin Fawr

fynegi diddordeb

Os hoffech gofrestru eich diddordeb Cysylltwch â ni